Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Ty Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 22 Medi 2011 |
|
|||
Amser: |
11:00 - 12:30 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: AC(4)2011(4) |
|||||
|
|
|
|||
Yn bresennol: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Peter Black Angela Burns Sandy Mewies Rhodri Glyn Thomas |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (Swyddog) Dianne Bevan, Prif Swyddog Gweithredu (Swyddog) Keith Bush, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol (Swyddog) Helen Finlayson, Ysgrifenyddiaeth (Swyddog) Steven O'Donoghue, Pennaeth Adnoddau'r Cynulliad (Swyddog) Nicola Callow, Pennaeth Cyllid (Swyddog)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
Mair Barnes, Cynghorwr Annibynnol David Melding, Ddirprwy Lywydd
|
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad
1(i) Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1(ii) Datganiadau o fuddiant
Ni chafodd unrhyw fuddiannau eu datgan.
1(iii) Cofnodion y cyfarfod 14 Gorffennaf 2011
Cofnodion cyfarfod 14 Gorffennaf 2011
Cytunwyd yn ffurfiol ar y cofnodion.
Materion yn codi o’r cyfarfod ar 14 Gorffennaf 2011
Roedd cais wedi cael ei wneud i newid Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 i gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol fel corff a enwir. Byddai’r Comisiwn yn cael ei hysbysu unwaith y byddai ymateb wedi dod gan Swyddfa’r Cabinet.
2. Cyllideb ddrafft 2012-13
Yr egwyddorion sy’n ganolog i strategaeth cyllideb y Comisiwn, fel y cytunwyd ym mis Gorffennaf 2011, oedd:
i. y dylai’r gyllideb gynnwys digon o adnoddau i ganiatáu i’r Comisiwn ddarparu’r gwasanaethau sydd eu hangen ar y Cynulliad fel deddfwrfa sydd â phwerau deddfu llawn yn dilyn y refferendwm;
ii. bod angen safon uchel o wasanaethau cymorth ar y Cynulliad, fel sefydliad sy’n tyfu, gydag adnoddau priodol ar gyfer y gwasanaethau hynny, er mwyn galluogi’r Aelodau i wneud eu gwaith; ac
iii. y byddai’n hanfodol parhau i sicrhau effeithiolrwydd a gwerth am arian.
Cafodd cynigion y gyllideb ddrafft, i ariannu’r blaenoriaethau hyn, eu trafod. Penderfynwyd ar y cynigion drwy gyfuniad o arbedion, ailddosbarthu’r adnoddau presennol a thwf yn y gyllideb a gaiff ei gyflwyno dros y ddwy flynedd nesaf. Gwnaeth y Comisiynwyr gais i dynnu mwy o sylw at yr arbedion, yn arbennig y rhai sy’n deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau, bod tystiolaeth i gefnogi meysydd buddsoddi arfaethedig yn cael ei gryfhau, a bod ychydig o ailddrafftio yn cael ei wneud i wella eglurder yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfen.
Cafodd y gyllideb ddrafft o £47.7 miliwn ar gyfer 2012-13 ei thrafod. Roedd hyn yn gynnydd o 6.6 y cant o gymharu â 2011-12; yn dilyn trafodaeth o’r cynigion manwl, cymeradwyodd y Comisiwn gynnydd o 6.4 y cant. O hwn, byddai angen 5.1 y cant i dalu costau ychwanegol anochel. Cytunwyd bod y gyllideb hon, sy’n cynrychioli 0.3 y cant o Floc Cymru, yn bris rhesymol a phriodol ar gyfer cefnogaeth briodol i’r broses ddeddfwriaethol, craffu ar y Llywodraeth a chynrychiolaeth ddemocrataidd. Pwysleisiodd y Comisiwn ei fod am sicrhau bod gwasanaethau gwerth am arian yn cael eu darparu’n effeithlon ac yn effeithiol.
Bydd y gyllideb ddrafft, a gaiff ei diweddaru i adlewyrchu atborth y Comisiynwyr, yn cael ei gosod ar 29 Medi. Bydd Angela Burns, gyda swyddogion, yn cyflwyno’r gyllideb i’r Pwyllgor Cyllid ar 6 Hydref.
Byddai sesiwn yn cael ei threfnu ar ôl y Cyfarfod Llawn i gyflwyno’r gyllideb a strategaeth y Comisiwn i holl Aelodau’r Cynulliad.
Camau gweithredu: Swyddogion, mewn trafodaeth ag Angela Burns, i ddiweddaru dogfen y gyllideb ddrafft yn unol ag atborth gan y Comisiwn.
Camau gweithredu: Sesiwn i gael ei threfnu i gyflwyno’r gyllideb a strategaeth y Comisiwn i holl Aelodau’r Cynulliad.
3. Rhaglen dreigl Comisiwn y Cynulliad
Nodwyd y rhaglen dreigl.
4. Unrhyw Fusnes Arall
Cytunwyd y dylid paratoi opsiynau ar gyfer cydnabod cyfraniadau sylweddol tuag at ddatblygu’r Cynulliad, er enghraifft gan Lywyddion, a chreu arteffactau a fyddai’n gofnod hanesyddol priodol o ddatblygiad y Cynulliad.
Camau gweithredu: Swyddogion i baratoi opsiynau ar gyfer cydnabod cyfraniadau sylweddol i’r Cynulliad
Roedd nifer o Aelodau’r Cynulliad a’u staff yn y Cynulliad a’u swyddfeydd yn y rhanbarthau a’r etholaethau wedi parhau i gael trafferthion TGCh. Roedd cylchedau newydd yn cael eu gosod, a fyddai’n gwella cyflymder y cysylltiad mewn swyddfeydd pell. Cytunwyd y gallai’r Aelodau gysylltu â Peter Black os oeddynt yn wynebu trafferthion sylweddol, ac y dylai Saesneg clir, heb jargon, gael ei ddefnyddio i gyfleu unrhyw drafferthion y gwyddom amdanynt, i’r Aelodau.
Roedd rhai Aelodau wedi wynebu trafferthion wrth ddefnyddio ystafelloedd pwyllgora 1, 2 a 3 yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Roedd ymchwiliadau yn cael eu cynnal a bydd adroddiad yn cael ei ddosbarthu.